Ynghylch Blodau iâl
Crëwyd gan natur, lluniwyd gan iâl
Mae Blodau iâl yn rhan o ddatblygiad newydd cyffrous yng nghanol tref Wrecsam. Mae’r tîm, sy’n angerddol ynghylch popeth yn gysylltiedig â blodau, yn cyfuno eu profiad a’u dyluniadau medrus gyda’u technegau naturiol ac ecogyfeillgar i greu trefniadau artistig gwych sy’n berffaith ar gyfer pob achlysur a chyllideb.
Rydyn ni’n caru blodau; rydyn ni wedi’n swyno gan eu hystyron a thrwy weithio mewn cytgord â’r tymhorau. Rydyn ni’n dilyn byd natur i sicrhau ein bod yn cynnwys harddwch tymhorol yn ein dyluniadau. P’un a yw’n dusw dathlu, yn briodas, yn angladd, yn ddigwyddiad neu’n achlysur penodol, gallwch ddewis o’n casgliad ar-lein neu gysylltu â’n tîm, a fydd yn gweithio gyda chi i’ch helpu i greu’r arddangosiad blodau perffaith. Wrth gyflwyno ein hystod newydd sbon o anrhegion, mae gennym hefyd ddewis gwych o roddion hyfryd, sy’n berffaith ar gyfer pob achlysur.
Rydyn ni’r un mor angerddol am addysg ag am duswau hardd. Fel rhan o Goleg Cambria, mae ein siop hefyd yn ganolfan fywiog i hyfforddi myfyrwyr blodeuwriaeth lleol. Dan arweiniad tîm o weithwyr proffesiynol profiadol, bydd y myfyrwyr yn elwa o ddysgu gan bobl sy’n rhagorol yn eu maes. Byddwn ni’n eu helpu i feithrin eu creadigrwydd, cynyddu eu sgiliau a’u gwybodaeth am y diwydiant, ac yn y pen draw, eu galluogi i ffynnu i fod yn werthwyr blodau’r dyfodol.
Mae darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yr un mor bwysig i ni â defnyddio’r blodau mwyaf ffres a chreu’r dyluniadau gorau. Rydyn ni’n ymfalchïo mewn rhagori, gan ddarparu gwasanaeth cyffyrddiad personol a fydd yn ein gwneud ni’n siop un stop ar gyfer popeth sy’n ymwneud â blodau.
Beth allwn ni ei wneud i chi?
Amseroedd agor
Dydd Llun
10am – 5pm
Dydd Mawrth
10am – 5pm
Dydd Mercher
10am – 5pm
Dydd Iau
10am – 5pm
Dydd Gwener
10am – 5pm
Dydd Sadwrn
AR GAU
Dydd Sul
AR GAU
Amseroedd agor
Dydd Llun
10am – 5pm
Dydd Mawrth
10am – 5pm
Dydd Mercher
10am – 5pm
Dydd Iau
10am – 5pm
Dydd Gwener
10am – 5pm
Dydd Sadwrn
AR GAU
Dydd Sul
AR GAU